PET(4)-01-12 p1a

P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Gofynnwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:

 

1. Gynghori Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro i:

 

·         ddarparu digon o le parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael ardaloedd addas ar gyfer parcio i’r ysbyty ar y safle ac ar dir fel yr ardal ddiffaith i’r gogledd o’r rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd Bychan ar yr ochr arall i Eastern Avenue,

 

·         datganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar safle’r Mynydd Bychan a

 

·         pheidio â gwerthu tir ysbytai yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar gyfer tai.

 

2. Argymell bod Cyngor Sir Caerdydd yn:

 

·         gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu pellach ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan oni bai bod uned yn cael ei symud o’r safle, a gaiff yr un effaith ar draffig

 

·         peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal a

 

·         chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan.

 

3. Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr ardal.

 

Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Ron Page

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 22 Mai 2008

 

Nifer y llofnodion:500+